Leviticus 7:36 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ei roddi iddynt, y dydd yr eneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel, trwy ddeddf dragwyddol, trwy eu cenedlaethau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma beth ddwedodd yr ARGLWYDD oedd i gael ei roi iddyn nhw, pan gawson nhw eu heneinio gan Moses. Dyma beth mae pobl Israel i fod i'w roi iddyn nhw bob amser.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y diwrnod y cysegrwyd hwy gorchmynnodd yr ARGLWYDD i bobl Israel roi iddynt gyfran reolaidd dros eu cenedlaethau.