Leviticus 8:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a daenellodd ohono ar yr allor saith waith, ac a eneiniodd yr allor a'i holl lestri, a'r noe hefyd a'i throed, i'w cysegru.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n taenellu peth ar yr allor saith gwaith. Taenellu peth ar yr offer i gyd, a'r ddisgyl bres fawr a'i stand.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Taenellodd beth o'r olew seithwaith ar yr allor, ac eneiniodd yr allor a'i holl offer, y noe hefyd a'i gwaelod, i'w cysegru.