Leviticus 8:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Moses a ddug feibion Aaron, ac a wisgodd beisiau amdanynt, a gwregysodd hwynt â gwregysau, ac a osododd gapiau am eu pennau; fel y gorchmynasai'r ARGLWYDD wrth Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Moses yn gwisgo meibion Aaron yn eu crysau, rhwymo sash am eu canol, a rhoi cap ar eu pennau. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gwnaeth Moses i feibion Aaron ddod ymlaen, rhoddodd wisgoedd amdanynt, clymu gwregysau am eu canol, a gwisgo capiau am eu pennau, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.