Leviticus 8:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'i lladdodd: a Moses a gymerth y gwaed, ac a'i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â'i fys, ac a burodd yr allor; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a'i cysegrodd hi, i wneuthur cymod arni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i'r tarw gael ei ladd dyma Moses yn cymryd peth o'r gwaed a'i roi gyda'i fys ar gyrn yr allor i'w phuro hi. Wedyn dyma fe'n tywallt gweddill y gwaed wrth droed yr allor. Dyma sut wnaeth e gysegru'r allor, a'i gwneud hi'n iawn i aberthu arni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Lladdodd Moses y bustach a chymryd peth o'r gwaed a'i roi 'i fys ar y cyrn bob ochr i'r allor i'w chysegru; tywalltodd weddill y gwaed wrth droed yr allor. Felly y cysegrodd hi, gan wneud cymod drosti.