Leviticus 8:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o'r gwaed ar gwr isaf eu clust ddeau, ac ar fawd eu llaw ddeau, ac ar fawd eu troed deau; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fe'n gwneud yr un peth i feibion Aaron, cyn sblasio gweddill y gwaed o gwmpas yr allor.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gwnaeth Moses i feibion Aaron ddod ymlaen, a rhoddodd beth o'r gwaed ar gwr isaf eu clustiau de, ar fodiau eu llaw dde ac ar fodiau eu troed de, a lluchiodd waed ar bob ochr i'r allor.