Leviticus 8:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gymerodd hefyd y gwêr, a'r gloren, a'r holl wêr oedd ar y perfedd, a'r rhwyden oddi ar yr afu, a'r ddwy aren a'u braster, a'r ysgwyddog ddeau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fe'n cymryd y brasder — sef brasder y gynffon, y brasder o gwmpas y perfeddion, rhan isaf yr iau, a'r ddwy aren a'r brasder sydd arnyn nhw — a darn uchaf y goes ôl dde.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd y braster, y gynffon fras, yr holl fraster ar yr ymysgaroedd, gorchudd yr iau, y ddwy aren a'u braster, a'r glun dde.