Leviticus 8:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chymerodd o gawell y bara croyw, yr hwn oedd gerbron yr ARGLWYDD, un deisen groyw, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen; ac a'u gosododd ar y gwêr, ac ar yr ysgwyddog ddeau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna cymerodd Moses o'r fasged beth o'r bara wedi ei wneud gyda'r blawd gwenith gorau — un dorth o fara heb furum ynddo, un dorth wedi ei socian mewn olew olewydd, ac un o'r bisgedi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna o'r fasgedaid o'r bara croyw oedd gerbron yr ARGLWYDD cymerodd Moses deisen o fara croyw, ac un arall wedi ei chymysgu ag olew, ac un fisged, a'u gosod ar y braster ac ar y glun dde.