Leviticus 8:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chymerodd Moses o olew yr eneiniad, ac o'r gwaed oedd ar yr allor, ac a'i taenellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd ag ef: ac efe a gysegrodd Aaron, a'i wisgoedd, a'i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd ag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna'n olaf dyma Moses yn cymryd peth o'r olew eneinio a peth o'r gwaed oedd ar yr allor a'i daenellu ar Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd. Dyna sut wnaeth e gysegru Aaron a'i feibion a'u gwisgoedd i wasanaeth yr ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cymerodd Moses beth o'r olew eneinio ac o'r gwaed oddi ar yr allor, a'u taenellu dros Aaron a'i ddillad, a thros ei feibion a'u dillad hefyd; felly y cysegrodd Aaron a'i ddillad, hefyd ei feibion a'u dillad.