Leviticus 8:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwytewch ef, a'r bara hefyd sydd yng nghawell y cysegriadau; megis y gorchmynnais, gan ddywedyd, Aaron a'i feibion a'i bwyty ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Moses yn dweud wrth Aaron a'i feibion, “Rhaid i chi goginio cig yr hwrdd yma wrth y fynedfa i'r Tabernacl. Yna ei fwyta gyda'r bara sydd yn y fasged sy'n dal yr offrymau ordeinio. Mae Duw wedi dweud wrtho i mai dim ond chi sydd i fod i'w fwyta.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion, "Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod a'i fwyta yno gyda'r bara o fasged offrymau'r ordeinio, fel y gorchmynnais, a dweud mai Aaron a'i feibion oedd i'w fwyta.