Leviticus 8:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y gorchmynasai'r ARGLWYDD i Moses.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac yn olaf dyma fe'n rhoi twrban ar ben Aaron. Ar flaen y twrban gosododd fedaliwn aur bach yn symbol ei fod wedi ei gysegru i wasanaethu Duw. Gwnaeth Moses bopeth fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna rhoddodd dwrban ar ben Aaron, a gosod arno'r dorch aur, y goron sanctaidd, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.