Leviticus 9:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a'i lladdodd, ac a'i hoffrymodd dros bechod, fel y cyntaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Aaron yn cyflwyno offrymau'r bobl. Cymerodd y bwch gafr oedd yn offrwm i lanhau'r bobl o'u pechod, ei ladd, a mynd trwy'r un ddefod o buro ac o'r blaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth ag offrwm dros y bobl. Cymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, a'i ladd a'i gyflwyno'n aberth dros bechod, fel y gwnaethai gyda'r cyntaf.