Leviticus 9:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a laddodd y bustach a'r hwrdd, yn aberth hedd, yr hwn oedd dros y bobl: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl hynny dyma fe'n lladd y bustach a'r hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyma feibion Aaron yn cyflwyno'r gwaed iddo, a dyma fe'n sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Lladdodd hefyd yr ych a'r hwrdd yn heddoffrwm dros y bobl; daeth ei feibion 'r gwaed ato, a lluchiodd yntau ef ar bob ochr i'r allor.