Leviticus 9:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gosodasant y gwêr ar y parwydennau; ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fe'n gosod y rhain ar ben y brestiau, ac yna llosgi'r brasder i gyd ar yr allor.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
gosodwyd hwy ar y frest, ac yna llosgodd Aaron y braster ar yr allor.