Leviticus 9:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymod drostynt; fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Dos at yr allor a mynd trwy'r ddefod o gyflwyno'r offrwm i lanhau o bechod a'r offrwm i'w losgi. Cyflwyna nhw i wneud pethau'n iawn rhyngot ti â Duw a rhwng dy bobl â Duw. Gwna yn union beth mae'r ARGLWYDD wedi dweud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Moses wrth Aaron, "Nes at yr allor ac offryma dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun a thros y bobl; abertha offrwm y bobl a gwna gymod drostynt, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD."