Luke 1:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys mawr vydd ef yn‐golwc yr Arglwyð, ac nyd yf na gwin na diot‐gadarn: ac a gyflawnir o’r yspryt glan, ys o vru ei vam.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a lawenychant, canys bydd efe yn fawr ger bron yr Arglwydd; ac na gwin na diod gadarn nid yf efe ddim; ac o’r Yspryd Glân y llenwir hyd yn oed o groth ei fam;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys mawr fydd yng ngolwg yr Arglwydd, a gwin na diod gadarn nid yf, a llenwir ef o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o'r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd e'n was pwysig iawn i'r Arglwydd Dduw. Fydd e ddim yn yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol, ond bydd wedi cael ei lenwi â'r Ysbryd Glân hyd yn oed cyn iddo gael ei eni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
oherwydd mawr fydd ef gerbron yr Arglwydd, ac nid yf win na diod gadarn byth; llenwir ef 'r Ysbryd Gln, ie, yng nghroth ei fam,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys mawr fydd efe yn ngolwg yr Arglwydd, ac nid ŷf efe ddim gwin, na diod feddwol arall; ac efe a lenwir o'r Yspryd Glân o grôth ei fam: