Luke 1:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ef aa yn y ’olwc ef yn yspryt a ’meddiant Elias, i dd ymchwelyt calonae y tadae i’r plant, a’r ei anhydyn i brudd d ap y cyfiawnion, er iddo arlwy avv popul parat i’r Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac efe a â o’i flaen Ef yn yspryd a gallu Elias, i droi calonnau tadau at y plant, a’r anufudd i rodio yn noethineb y cyfiawnion, i barottoi i’r Arglwydd bobl barod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac â rhagddo o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Elïas, i droi calonnau tadau at eu plant, a rhai anufudd i fyw yn noethineb y cyfiawn, i baratoi i’r Arglwydd bobl ddarparedig.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a â o'i flaen ef yn ysbryd a nerth Eleias, i droi calonnau'r tadau at y plant, a'r anufudd i ddoethineb y cyfiawn; i ddarparu i'r Arglwydd bobl barod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gyda'r un ysbryd a nerth a oedd gan y proffwyd Elias bydd yn mynd allan i gyhoeddi fod yr Arglwydd yn dod, ac yn paratoi'r bobl ar ei gyfer. Bydd yn gwella perthynas rhieni â'u plant, ac yn peri i'r rhai sydd wedi bod yn anufudd weld mai byw yn iawn sy'n gwneud synnwyr.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd yn cerdded o flaen yr Arglwydd yn ysbryd a nerth Elias, i droi calonnau rhieni at eu plant, ac i droi'r anufudd i feddylfryd y cyfiawn, er mwyn darparu i'r Arglwydd bobl wedi eu paratoi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac efe a â o'i flaen ef, yn ei olwg, yn yspryd a gallu Elias, I droi calonau tadau at blant, A rhai anufydd i gallineb rhai cyfiawn, I barotoi i'r Arglwydd bobl hollol ddarparedig.