Luke 1:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot Zacharias wrth yr Angel, Wrth pa herwydd y gwybyddaf hyn? can ys ydd wy vi yn hen‐wr, a’m gwraic ysy wedy cerddet mewn swrn oedran.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd Zacariah wrth yr angel, Wrth ba beth y gwybyddaf hyn, canys myfi wyf henafgwr, ac fy ngwraig wedi dyfod i ddyddiau oedranus?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd Sacharïas wrth yr angel, “Pa fodd y gwybyddaf hyn? canys yr wyf i’n hen ŵr, a’m gwraig wedi mynd ymlaen mewn dyddiau.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Sachareias wrth yr angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? canys hynafgwr wyf fi, a'm gwraig hefyd mewn gwth o oedran.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Sut alla i gredu'r fath beth?” meddai Sachareias wrth yr angel, “Wedi'r cwbl, dw i'n hen ddyn ac mae ngwraig i mewn oed hefyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Sachareias wrth yr angel, "Sut y caf sicrwydd o hyn? Oherwydd yr wyf fi yn hen, a'm gwraig wedi cyrraedd oedran mawr."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd Zechariah wrth yr Angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? Canys henafgwr wyf fi, a'm gwraig hefyd wedi myned yn mhell mewn dyddiau.