Luke 1:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Angel aatepodd ac a ddyvot, wrthaw, Mi yw Gabriel yr hwn a saif yn‐golwc Duw, ac a dd anvonwyt y ymddiddan a’ thi, ac y vanegi yty y pethe dayonus hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, yr angel a ddywedodd wrtho, Myfi wyf Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll ger bron Duw; a danfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i fynegi i ti y newyddion da hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yr angel iddo, “Myfi yw Gabriel, sy’n sefyll gerbron Duw, ac fe’m danfonwyd i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi i ti hyn o newyddion da.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r angel gan ateb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll gerbron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegi i ti'r newyddion da hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r angel yn ateb, “Gabriel ydw i. Fi ydy'r angel sy'n sefyll o flaen Duw i'w wasanaethu. Fe sydd wedi fy anfon i siarad â ti a dweud y newyddion da yma wrthot ti.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yr angel ef, "Myfi yw Gabriel, sydd yn sefyll gerbron Duw, ac anfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi iti y newydd da hwn;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Angel a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Myfi wyf Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll yn mhresenoldeb Duw; ac fe'm hanfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegu i ti y newyddion da hyn.