Luke 1:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha y byddy vut, ac ny elly ymddiddan, y d y dyð y gwnaer y pethae hyn, can na chredaist vy‐gairiae, yr ei a gyfl awnir yn y h amser,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, byddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wele, ti fyddi fud, a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd y pethau hyn, am na chredaist fy ngeiriau, y rhai er hynny a gyflawnir yn eu hamser.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, ti a fyddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i'm geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gan dy fod ti wedi gwrthod credu beth dw i'n ei ddweud, byddi'n methu siarad nes bydd y plentyn wedi ei eni. Ond daw'r cwbl dw i'n ei ddweud yn wir yn amser Duw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac wele, byddi'n fud a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd hyn, am iti beidio chredu fy ngeiriau, geiriau a gyflawnir yn eu hamser priodol."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, ti a fyddi ddystaw, ac heb allu llefaru, hyd y dydd y daw oddiamgylch y pethau hyn, o herwydd na chredaist fy ngeiriau, y rhai a gyflawnir yn eu hamser priodol.