Luke 1:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ddaeth ef allan, ny allei ef ddywedyt dim wrthynt: yno y gwybuont weled o hanaw weledigaeth yn y Templ: can ys ef a arwyddocaodd yddynt, ac a arhoes avvdd yn vut.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod allan ni allai lefaru wrthynt; a gwybuant mai gweledigaeth a welsai efe yn y deml; ac efe oedd yn amneidio iddynt, ac a arhosodd yn fud.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo ddyfod allan ni allai lefaru wrthynt, a deallasant ei fod wedi gweled gweledigaeth yn y cysegr; ac yr oedd ef yn amneidio arnynt, a pharhau yn fud.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant weled ohono weledigaeth yn y deml: ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt; ac efe a arhosodd yn fud.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna pan ddaeth allan, roedd yn methu siarad â nhw. A dyma nhw'n sylweddoli ei fod wedi gweld rhywbeth rhyfeddol yn y deml — roedd yn ceisio esbonio iddyn nhw drwy wneud arwyddion, ond yn methu siarad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan ddaeth allan, ni allai lefaru wrthynt, a deallasant iddo gael gweledigaeth yn y cysegr; yr oedd yntau yn amneidio arnynt ac yn parhau yn fud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant iddo weled gweledigaeth yn y Cysegr: ac yr oedd efe ei hun yn amneidio iddynt; ac efe a barhâodd yn fud.