Luke 1:28 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Angel aeth y mewn atei, ac a ddyvot, Hynpych‐gwell y rad-garedic: yr Arglwydd ys y gyd a thi: bendigeit vvyt ymplith gwrageð.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned i mewn atti, dywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ffafr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth i mewn ati, a dywedodd, “Henffych well, y gyflawn o ras! Yr Arglwydd a fo gyda thi!”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ras; yr Arglwydd sydd gyda thi: bendigaid wyt ymhlith gwragedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r angel yn mynd ati a'i chyfarch, “Mair, mae Duw wedi dangos ffafr atat ti! Mae'r Arglwydd gyda thi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth yr angel ati a dweud, "Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi! Y mae'r Arglwydd gyda thi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well! Tydi sydd wedi derbyn ffafr: yr Arglwydd sydd gyd â thi.