Luke 1:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan weles hi ef, cyntyrfu a wnaeth hi can ’ymadrydd ef, a ’meðyliaw pa ryw annerch oedd hwnnw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr Arglwydd fo gyda thi. A hithau, wrth yr ymadrodd y mawr-gynhyrfwyd hi, ac ymresymmodd pa fath oedd y cyfarchiad hwn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hithau a gyffrowyd drwyddi wrth yr ymadrodd; a meddyliai pa ryw gyfarch a allai hwn fod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hithau, pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef; a meddylio a wnaeth pa fath gyfarch oedd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond gwnaeth yr angel i Mair deimlo'n ddryslyd iawn. Doedd hi ddim yn deall o gwbl beth roedd yn ei feddwl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond cythryblwyd hi drwyddi gan ei eiriau, a cheisiodd ddirnad pa fath gyfarchiad a allai hwn fod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hithau a gythryblwyd yn ddirfawr wrth yr ymadrodd, ac a ymresymodd ynddi ei hun pa fath gyfarchiad oedd hwn.