Luke 1:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Angel atepawdd, ac a ddyvot wrthei, Yr yspryt glan a ddaw arnat, a’ nerth y Goruchaf ath wascota. Wrth hynny a’r peth sanctaidd a aner o hanot, a elwir Map Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, yr angel a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd Glân a ddaw arnat, A gallu’r Goruchaf a gysgoda drosot; Gan hyny hefyd y Peth Sanctaidd a enir, Gelwir Ef Mab Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd yr angel iddi, “Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a gysgoda drosot; ac am hynny y plentyn a elwir yn santaidd, yn Fab Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a'th gysgoda di: am hynny hefyd y peth sanctaidd a aner ohonot ti, a elwir yn Fab Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r angel yn esbonio iddi, “Bydd yr Ysbryd Glân yn dod arnat ti, a nerth y Duw Goruchaf yn gofalu amdanat ti. Felly bydd y plentyn fydd yn cael ei eni yn berson sanctaidd — bydd yn cael ei alw yn Fab Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yr angel hi, "Daw'r Ysbryd Gln arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi; am hynny, gelwir y plentyn a genhedlir yn sanctaidd, Mab Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd Glân a ddaw arnat ti, a Gallu y Goruchaf a gysgoda drosot: am hyny hefyd y peth sanctaidd a genedlir, a elwir yn FAB DUW.