Luke 1:42 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A ’llefain o hanei a llef vchel, a’ dywedyt, Bendigedic yvv ti ym p lith gwragedd, can ys‐bendigedic ffrwyth dy groth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a llanwyd Elishabet o’r Yspryd Glân, a chododd ei llais â gwaedd fawr, a dywedodd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, A bendigedig yw ffrwyth dy groth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a llefodd â bloedd uchel, a dywedyd, “Bendigedig dydi ymhlith gwragedd, a bendigedig ffrwyth dy groth!
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llefain a wnaeth â llef uchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a gwaeddodd yn uchel: “Mair, rwyt ti wedi dy fendithio fwy nag unrhyw wraig arall, a bydd y babi rwyt ti'n ei gario wedi ei fendithio hefyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a llefodd llais uchel, "Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a llefain a wnaeth â llef uchel, ac a ddywedodd,— Bendigedig wyt ti yn mhlith gwragedd, A bendigedig yw ffrwyth dy grôth di.