Luke 1:44 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys nycha er cynted y deuth llef dy anerch iad im clustiae, y neidiodd y plentyn yn vy‐bru gan ’orvoledd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys wele, pan ddaeth llais dy gyfarchiad i’m clustiau, llammodd y plentyn o orfoledd yn fy nghroth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys, wele, fel y daeth sŵn dy gyfarchiad i’m clustiau y llamodd y plentyn o orfoledd yn fy nghroth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di i'm clustiau, y plentyn a lamodd o lawenydd yn fy nghroth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wir i ti, wrth i ti nghyfarch i, dyma'r babi sydd yn fy nghroth i yn neidio o lawenydd pan glywais dy lais di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywais dy lais yn fy nghyfarch, dyma'r plentyn yn fy nghroth yn llamu o orfoledd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys wele, mor gynted ag y daeth llais dy gyfarchiad i'm clustiau, Y baban a lamodd gan orfoledd yn fy nghrôth.