Luke 1:48 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ef a edrychawdd ar iselder ei wasanaethydd es: can ys nycha o ’r pryd hyn allan y m gailw yr oll oesoed vi yn wynvydedic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys wele, o hyn allan, dedwydd y’m geilw yr holl genhedlaethau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oblegid edrychodd ar iselder ei gaethferch.Canys, wele, o hyn allan gwynfydedig y geilw’r holl genedlaethau fi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: oblegid, wele, o hyn allan yr holl genedlaethau a'm geilw yn wynfydedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yn gwybod bod ei forwyn yn ferch gyffredin iawn, ond o hyn ymlaen bydd pobl o bob oes yn dweud fy mod wedi fy mendithio,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
am iddo ystyried distadledd ei lawforwyn. Oherwydd wele, o hyn allan fe'm gelwir yn wynfydedig gan yr holl genedlaethau,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys efe a edrychodd ar iselder ei law‐forwyn; Canys wele, o hyn allan, yr holl genedlaethau a'm galwant yn wynfydedig;