Luke 1:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YN‐ d yddiae Herod Vrenhin Iudaea, ydd oedd ryw Offeiriat a’ ei enw Zacharias o gylchðyð Abia: a’ ei wraic oedd o verched Aaron, a’i henw oedd Elisabet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr oedd yn nyddiau Herod, frenhin Iwdea, ryw offeiriad a’i enw Zacariah, o ddydd-gylch Abia; a gwraig oedd iddo o ferched Aaron, a’i henw oedd Elishabet.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Iwdea, ryw offeiriad a’i enw Sacharïas o ddosbarth Abïa, ac iddo wraig o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, ryw offeiriad a'i enw Sachareias, o ddyddgylch Abeia: a'i wraig oedd o ferched Aaron, a'i henw Elisabeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd Herod yn frenin ar Jwdea, roedd dyn o'r enw Sachareias yn offeiriad. Roedd yn perthyn i deulu offeiriadol Abeia, ac roedd ei wraig Elisabeth hefyd yn un o ddisgynyddion Aaron, brawd Moses.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn nyddiau Herod, brenin Jwdea, yr oedd offeiriad o adran Abeia, o'r enw Sachareias, a chanddo wraig o blith merched Aaron; ei henw hi oedd Elisabeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oedd yn nyddiau Herod, Brenin Judea, ryw offeiriad a'i enw Zechariah, o ddosparth dyddiol Abiah, ac yr oedd iddo wraig o ferched Aaron, a'i henw Elisabeth.