Luke 1:51 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ef a wnaeth gadernit a’ ei vraich: ef a ’oyscarawdd y beilchion ym-meddwl ei calonae.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwnaeth gadernid â’i fraich, Gwasgarodd feilchion ym mwriad eu calon,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwnaeth rymuster â’i fraich, Gwasgarodd feilchion ym mryd eu calon;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a wnaeth gadernid â'i fraich: efe a wasgarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae wedi defnyddio ei rym i wneud pethau rhyfeddol! — Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth rymuster 'i fraich, gwasgarodd y rhai balch eu calon;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Efe a wnaeth gadernid â'i fraich: Efe a lwyr‐wasgarodd y beilchion yn nychymyg eu calon;