Luke 1:58 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac a glypu hei chymydogion ae chenetl ddarvot ir Arglwydd ddangos ei vawredic drugaredd arnei, a’ chydlawenychy a hi a wnaethant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywodd ei chymmydogion a’i cheraint, fawrhau o’r Arglwydd Ei dosturi wrthi, a chydlawenychasant â hi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chlywodd ei chymdogion a’i cheraint helaethu o’r Arglwydd ei drugaredd iddi, a chydlawenychent â hi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i chymdogion a'i chenedl a glybu fawrhau o'r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau y newyddion, ac roedden nhw i gyd yn hapus hefyd fod yr Arglwydd wedi bod mor garedig wrthi hi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau am drugaredd fawr yr Arglwydd iddi, ac yr oeddent yn llawenychu gyda hi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i chymydogion a'i pherthynasau a glywsant fawrhâu o'r Arglwydd ei drugaredd tu ag ati; a hwy a gyd‐lawenychasant â hi.