Luke 1:59 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e ddarvu, pan yw ar yr wythvet dydd ydaethant i enwaedy ar y dyn‐bachan, ac ei galwesont ef Zacharias, yn ol enw ei dat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu ar yr wythfed dydd y daethant i amdorri ar y plentyn, a galwasant ef, yn ol enw ei dad, Zacariah.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ar yr wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei alw ar enw ei dad, yn Sacharïas.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a'i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wythnos ar ôl i'r babi gael ei eni roedd pawb wedi dod i seremoni enwaedu y bachgen, ac yn cymryd yn ganiataol mai Sachareias fyddai'n cael ei alw, yr un fath â'i dad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei enwi ar l ei dad, Sachareias.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu, ar yr wythfed dydd, hwy a ddaethant i enwaedu y plentyn; ac yr oeddynt am ei alw ar enw ei dâd, Zechariah.