Luke 1:63 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a alwadd am astyllen orgraph, ac a escrivenawdd, can ddywedyt, Ioan yw ei enw, a’ rhyveddy a wnaethant oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi gofyn o hono am argraphlech, ysgrifenodd gan ddywedyd, Ioan yw ei enw; a rhyfeddasant oll.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ceisiodd yntau lechen, ac ysgrifennydd, “Ioan yw ei enw.” A rhyfeddasant oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a alwodd am argrafflech, ac a ysgrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnodd am lechen i ysgrifennu arni, ac er syndod i bawb, ysgrifennodd y geiriau “Ioan ydy ei enw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd yntau am lechen fach ac ysgrifennodd, "Ioan yw ei enw." A synnodd pawb.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo ofyn am ysgrif‐lech, efe a ysgrifenodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll.