Luke 1:64 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ ei enae a egorwyt yn ebrwydd, a’ ei davot a ellyngvvyt, ac ef a ymddiddanawdd, can vendithiaw Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, ac ei dafod; a llefarodd gan fendithio Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac agorwyd ei enau yn y fan, a’i dafod, a dechreuodd lefaru gan fendithio Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a'i dafod ef; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr eiliad honno cafodd ei allu i siarad yn ôl, a dechreuodd foli Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar unwaith rhyddhawyd ei enau a'i dafod, a dechreuodd lefaru a bendithio Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a'i dafod a ryddhawyd; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.