Luke 1:65 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth ofn ar ei oll gymydogion, a’r oll ’airiae hynn a gyhoeddwyt trwy oll vlaeneudir Iudaiah.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy; ac yn holl fynydd-dir Iwdea y llefarwyd yr holl bethau hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth braw ar bawb a oedd yn trigo o’u hamgylch, ac yn holl fynydd-dir Iwdea yr oedd trafod ar yr holl bethau hyn,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd‐dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ei gymdogion i gyd wedi eu syfrdanu, ac roedd pawb drwy ardal bryniau Jwdea yn siarad am beth oedd wedi digwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth ofn ar eu holl gymdogion, a bu trafod ar yr holl ddigwyddiadau hyn trwy fynydd-dir Jwdea i gyd;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ofn a ddaeth ar bawb oedd yn trigo o'u hamgylch; a thrwy holl fynydd‐dir Judea y soniwyd llawer am yr holl ddywediadau hyn.