Luke 1:78 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Trwy galondit trugaredd ein Duw, gan yr honn y govwyawdd y towyn‐haul o’r vchelder.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Trwy diriondeb trugaredd ein Duw, Trwy’r hon yr ymwêl â ni godiad haul o’r uchelder,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
trwy dosturiaethau trugaredd ein Duw, ac ynddynt yr ymwêl â ni wawr oddi uchod,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r uchelder,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oherwydd mae Duw yn dirion ac yn drugarog, ac mae ei oleuni ar fin gwawrio arnon ni o'r nefoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hyn yw trugaredd calon ein Duw fe ddaw 'r wawrddydd oddi uchod i'n plith,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd calon trugaredd ein Duw, trwy yr hon y Wawr‐ddydd o'r uchelder a ymwel a ni,