Luke 1:79 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
I dowyny ir ei a eisteddant mewn tywylwch, ac yngwascawt angae, er cymmetry ein traet i ffordd tangneddyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
I lewyrchu i’r rhai sy’n eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, Er mwyn cyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
i lewyrchu i’r rhai a eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio’n traed i ffordd tangnefedd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I lewyrchu i'r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn disgleirio ar y rhai sy'n byw yn y tywyllwch gyda chysgod marwolaeth drostyn nhw, ac yn ein harwain ar hyd llwybr heddwch.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
i lewyrchu ar y rhai sy'n eistedd yn nhywyllwch cysgod angau, a chyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
I lewyrchu i'r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angeu, I gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.