Luke 1:80 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r mab an a dyfodd ac a gadarnhawyt yn yr yspryt, ac a vu yn y diffeithwch, yd y dydd yr ymddangosei i’r Israel ieit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r bachgen a gynnyddodd ac a gryfhawyd mewn yspryd, ac a fu yn yr anial-leoedd hyd ddydd ei ymddangosiad i Israel.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r plentyn a dyfai ac a gryfhâi yn yr ysbryd, a bu yn y diffeithleoedd hyd ddydd ei ymddangos i Israel.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac a fu yn y diffeithwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i'r Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tyfodd y plentyn Ioan yn fachgen cryf yn ysbrydol. Yna aeth i fyw i'r anialwch nes iddo gael ei anfon i gyhoeddi ei neges i bobl Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y plentyn yn tyfu ac yn cryfhau yn ei ysbryd; a bu yn yr anialwch hyd y dydd y dangoswyd ef i Israel.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r plentyn a gynyddodd, ac a gryfhâwyd mewn yspryd, a bu yn y diffeith‐leoedd hyd ddydd ei ymddangosiad cyhoeddus i Israel.