Luke 10:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YN ol y pethac hyn yr ’ordeiniawð yr Arglwyð ðec a thr’ugain ereill, hefyt ac ei danvones wy pop ddau a’ dau geyr ei vron i pop dinas a’ lle, ac ydd oedd ef ar ddyvot iddo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wedi’r pethau hyn, gosododd yr Arglwydd rai eraill, deg a thrugain; a danfonodd hwynt, bob yn ddau, o flaen Ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi hyn penododd yr Arglwydd ddeg a thrigain eraill, ac anfonodd hwynt bob yn ddau o’i flaen i bob dinas a man lle’r oedd ef ar fedr dyfod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wedi'r pethau hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd ddeg a thrigain eraill hefyd, ac a'u danfonodd hwynt bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl hyn dyma Iesu'n penodi saith deg dau o rai eraill a'u hanfon o'i flaen bob yn ddau i'r lleoedd roedd ar fin mynd iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi hynny penododd yr Arglwydd ddeuddeg a thrigain arall, a'u hanfon allan o'i flaen, bob yn ddau, i bob tref a man yr oedd ef ei hun am fynd iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wedi y pethau hyn, penododd yr Arglwydd Ddeg‐a‐Thri‐ugain eraill, ac a'u danfonodd hwy bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob Dinas a man, lle yr oedd efe ei hun ar fedr dyfod.