Luke 10:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ys ef y llwch, yr vn a ’lyn wrthym o’ch dinas, a ddy sychwn o dd ywrthym yn eich erbyn chvvi: er hyny gwybyddwch hyn, ddarvot i deyrnas Duw nesau atoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hyd yn oed y llwch a lynodd o’ch dinas wrth ein traed i ni, ei sychu ymaith i chwi yr ydym: ond hyn gwybyddwch, Nesaodd teyrnas Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
‘Hyd yn oed y llwch o’ch dinas chwi a lynodd wrth ein traed, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi; eithr gwybyddwch hyn, nesaodd teyrnas Dduw.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyd yn oed y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o'ch dinas, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fod teyrnas Dduw wedi nesáu atoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Dŷn ni'n sychu llwch eich tref chi i ffwrdd oddi ar ein traed ni, fel arwydd yn eich erbyn chi! Ond gallwch fod yn reit siŵr o hyn — bod Duw ar fin dod i deyrnasu!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Yn eich erbyn chwi, yr ydym yn sychu ymaith hyd yn oed y llwch o'ch tref a lynodd wrth ein traed. Eto gwybyddwch hyn: y mae teyrnas Dduw wedi dod yn agos.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Hyd y nod y llwch, yr hwn a lynodd wrthym ar ein traed o'ch Dinas chwi, yr ydym yn ei sychu ymaith yn eich herbyn chwi: er hyny, gwybyddwch hyn: Y mae Teyrnas Dduw wedi agoshâu.