Luke 10:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwae dy di Chorazin: gwae dy di Beth‐saida: can ys pe ’s gwneythesit yn‐Tyrus a’ Sidon y gwyrthiae a wnaethpwyt yn y‐chwi, hwy gynt oll a ediveiriesent, gan eistedd mewn lliain sach a’ lluto.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwae di, Corazin; gwae di, Bethtsaida, canys pe yn Tyrus a Tsidon y gwnaethid y gwyrthiau a wnaethpwyd ynoch, er ys talm, gan eistedd mewn sachlïain a lludw, yr edifarhasent;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwae di, Chorasin! Gwae di, Fethsaida! Canys pe yn Nhyrus a Sidon y gwnaethid y grymusterau a wnaethpwyd ynoch chwi, ers talm yr eisteddasent mewn sachliain a lludw ac yr edifarhasent.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwae di, Chorasin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachliain a lludw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gwae ti, Chorasin! Gwae ti, Bethsaida! Petai'r gwyrthiau wnes i ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, byddai'r bobl yno wedi hen ddangos eu bod yn edifar, trwy eistedd ar lawr yn gwisgo sachliain a thaflu lludw ar eu pennau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaethpwyd ynoch chwi wedi eu gwneud yn Tyrus a Sidon, buasent wedi edifarhau erstalwm, gan eistedd mewn sachliain a lludw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwae i ti, Chorazin; gwae i ti, Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sach‐lian a lludw.