Luke 10:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny y bydd esmwythach i Tyrus a’ Sidon, yn y varn, nag i chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond i Tyrus a Tsidon y bydd yn fwy dioddefadwy yn y farn nag i chwi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn nag i chwi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd hi'n well ar Tyrus a Sidon ar ddydd y farn nag arnoch chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eto, caiff Tyrus a Sidon lai i'w ddioddef yn y Farn na chwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Bellach, bydd yn fwy goddefadwy i Tyrus a Sidon yn y Farn, nag i chwi.