Luke 10:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y nep a’ch clyw chvvi, a’m clyw i: a’r nep a’ch gommedd chvvi, a’m gommedd i; a’r nep a’m gomedd i, a’ ommedd yr vn am d anvnawdd i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hyd i uffern y’th dynir i lawr. Yr hwn sydd yn eich gwrando, Myfi a wrendy efe; ac yr hwn sydd yn eich dirmygu, Myfi a ddirmyga efe; ac yr hwn sydd yn Fy nirmygu I, dirmygu yr Hwn a’m danfonodd y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y neb a wrendy arnoch chwi a wrendy arnaf innau, a’r neb a’ch gwrthyd chwi a’m gwrthyd innau; a’r neb a’m gwrthyd i a wrthyd yr hwn a’m danfonodd i.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i; a'r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a'r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu'r hwn a'm hanfonodd i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae pwy bynnag sy'n gwrando ar eich neges chi yn fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n eich gwrthod chi yn fy ngwrthod i hefyd. Ac mae pwy bynnag sy'n fy ngwrthod i yn gwrthod Duw, yr un sydd wedi fy anfon i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r sawl sy'n gwrando arnoch chwi yn gwrando arnaf fi, a'r sawl sy'n eich anwybyddu chwi yn f'anwybyddu i; ac y mae'r sawl sy'n f'anwybyddu i yn anwybyddu'r hwn a'm hanfonodd i."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y neb sydd yn eich gwrando chwi sydd yn fy ngwrando i; a'r neb sydd yn eich dibrisio chwi sydd yn fy nibrisio i; a'r neb sydd yn fy nibrisio i sydd yn dibrisio yr hwn a'm danfonodd i.