Luke 10:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dec a’ thrucain a ddad ymychwelesont y gyd a llewenydd, gan ddywedyt, Arglwydd, ys y cythraulieit a ddarystyngir i ni yn dy Enw di.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dychwelodd y deg a thrugain gyda llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni yn Dy enw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dychwelodd y deg a thrigain mewn llawenydd, gan ddywedyd, “Arglwydd, darostyngir hyd yn oed y cythreuliaid i ni yn dy enw di.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r deg a thrigain a ddychwelasant gyda llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan ddaeth y saith deg dau yn ôl, dyma nhw'n dweud yn frwd, “Arglwydd, mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufuddhau i ni wrth i ni dy enwi di.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dychwelodd y deuddeg a thrigain yn llawen, gan ddweud, "Arglwydd, y mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ymddarostwng inni yn dy enw di."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dychwelodd y Deg a Thri‐ugain gyd â llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, y mae hyd y nod y cythreuliaid yn ddarostyngedig i ni yn dy enw di.