Luke 10:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nycha, vi yn roddy y‐chwy veddiant y sathru ar seirph ac y scorpionae, ac ar bop meddiant y gelyn, ac ny’s briw dim chwi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wele, rhoddais i chwi awdurdod i sathru ar seirph ac ysgorpionau ac ar holl allu y gelyn; ac nid oes dim o gwbl a wna i chwi niweid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyma fi wedi rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac ar holl allu’r gelyn, ac nid oes dim a’ch niweidia o gwbl oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn: ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi rhoi'r awdurdod i chi dros holl nerth y gelyn! Gallwch sathru ar nadroedd a sgorpionau a fydd dim byd yn gwneud niwed i chi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma fi wedi rhoi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac i drechu holl nerth y gelyn; ac ni'ch niweidir chwi gan ddim.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele yr ydwyf wedi rhoddi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau; a thros holl allu y Gelyn; ac ni wna dim niwed o gwbl i chwi.