Luke 10:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn yr awr hono yr ymlawenychawð yr Iesu yn yr yspryt, ac y dyuot, Cyffessaf yty, Dad, Arglwydd nef a’ dayar, can ys cuddiaist y pethae hynn rac y doethion, a’r ei dyallus, ac ei d adgudiaist ir ei bychain: do, Dad, can ys velly y rhyngei bodd i ti.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr awr honno y gorfoleddodd yn yr Yspryd Glân, a dywedodd, Diolchaf i Ti, O Dad, Arglwydd y nef a’r ddaear, am guddio o Honot y pethau hyn oddiwrth ddoethion a rhai deallus, ac y’ u datguddiaist hwynt i rai bychain. Ië, Dad, canys felly y boddlonwyd ger Dy fron.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr awr honno y gorfoleddodd yn yr Ysbryd Glân, a dywedodd, “Molaf di, O Dad, Arglwydd y nef a’r ddaear, am iti guddio’r pethau hyn rhag doethion a gwybodusion, a’u datguddio i blant bach; ie, O Dad, am mai felly y rhyngodd bodd i ti.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr ysbryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio ohonot y pethau hyn oddi wrth y doethion a'r deallus, a'u datguddio ohonot i rai bychain: yn wir, O Dad; oblegid felly y gwelid yn dda yn dy olwg di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bryd hynny roedd Iesu'n fwrlwm o lawenydd yr Ysbryd Glân, ac meddai “Fy Nhad. Arglwydd y nefoedd a'r ddaear. Diolch i ti am guddio'r pethau yma oddi wrth y bobl sy'n meddwl eu bod nhw mor ddoeth a chlyfar, a'u dangos i'r rhai sy'n agored fel plant bach. Ie, fy Nhad, dyna sy'n dy blesio di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr awr honno gorfoleddodd yn yr Ysbryd Gln, ac meddai, "Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r deallusion, a'u datguddio i rai bychain; ie, O Dad, oherwydd felly y rhyngodd dy fodd di.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn yr awr hono, efe a ymorfoleddodd yn yr Yspryd Glân, ac a ddywedodd, Yr wyf yn cydnabod yn ddiolchgar i ti, O Dâd, Arglwydd y Nef a'r ddaear, am guddio o honot y pethau hyn oddiwrth ddoethion a rhai deallus, a'u dadguddio i fabanod: ie, O Dâd, canys gwneuthur felly oedd dy ewyllys da.