Luke 10:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y troes ef at ei ddiscipulon, ac y dyuot, Oll pethe a roddwyt i mi y gan vy‐Tad: ac ny wyr nep pwy ’yw’r Map, oddy eithyr y Tat: na phwy ’n yw’r Tat, oddy eithr y Map, a’r hwn a ewyllysio’r Map y egluraw ef iddo. Yr Euangel y xiij. Sul gwedi Trintot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pob peth a draddodwyd i Mi gan Fy Nhad; ac nid oes neb a ŵyr pwy yw y Mab, oddieithr y Tad; na phwy yw y Tad, oddieithr y Mab, a phwy bynnag y mynno’r Mab Ei ddatguddio Ef iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Popeth a draddodwyd imi gan fy Nhad, ac ni ŵyr neb pwy yw’r Mab ond y Tad, a phwy yw’r Tad ond y Mab a phwy bynnag yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni ŵyr neb pwy yw'r Mab, ond y Tad; na phwy yw'r Tad, ond y Mab, a'r neb y mynno'r Mab ei ddatguddio iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae fy Nhad wedi rhoi popeth yn fy ngofal i. Does neb yn nabod y Mab go iawn ond y Tad, a does neb yn nabod y Tad go iawn ond y Mab, a'r rhai hynny mae'r Mab wedi dewis ei ddangos iddyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Ni u373?yr neb pwy yw'r Mab ond y Tad, na phwy yw'r Tad ond y Mab a'r rhai hynny y mae'r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pob peth a roddwyd i fyny i mi gan fy Nhâd: ac ni ŵyr neb pwy yw y Mab, ond y Tâd; a phwy yw y Tâd, ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddadguddio iddo.