Luke 10:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys dywedaf y chwy, may llawer o Prophwyti a’ Brenhinedd a vysei dda gantynt weled y pethae a welw‐chwi, ac ny’s gwelsant: a’ chlywed y pethae a glywch, ac ny ’s clywsant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys dywedaf wrthych, Llawer o brophwydi a brenhinoedd a ewyllysiasant weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau a glywch, ac nis clywsant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys meddaf i chwi, llawer o broffwydi a brenhinoedd a ddymunodd weled yr hyn a welwch chwi ac nis gwelsant, a chlywed yr hyn a glywch ac nis clywsant.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, ewyllysio o lawer o broffwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dweud wrthoch chi fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi bod yn ysu am gael gweld beth dych chi'n ei weld a chlywed beth dych chi'n ei glywed, ond chawson nhw ddim.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd rwy'n dweud wrthych fod llawer o broffwydi a brenhinoedd wedi dymuno gweld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Llawer o Broffwydi a Breninoedd a chwenychasant weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.