Luke 10:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac, vn o’r cyfreithwyr yn cody yn ei sefyll, ac yn y demtiaw ef, can ddywedyt, Athro, pa beth a wnaf cr etiveddu bywyt tragyvythawl?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan Ei demtio Ef, gan ddywedyd, Athraw, wedi gwneuthur pa beth y caf fywyd tragywyddol yn etifeddiaeth?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyma ryw gyfreithiwr yn codi i’w demtio, gan ddywedyd, “Athro, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un tro safodd un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith ar ei draed i roi prawf ar Iesu. Gofynnodd iddo, “Athro, beth sydd raid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma un o athrawon y Gyfraith yn codi i roi prawf arno, gan ddweud, "Athro, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, rhyw Ddysgawdwr y Gyfraith a gododd i fyny gan ei brofi ef i'r eithaf, a dywedyd, Athraw, pa beth a wnaf i etifeddu bywyd Tragywyddol?