Luke 10:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ef yn ewyllsiaw ymgyfyawnhay y hun, a ðyvot wrth yr Iesu, A’ phwy yw vyg‐cymydoc?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac efe, gan ewyllysio cyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymmydog?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yntau, yn dymuno ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, “A phwy sydd gymydog i mi?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd y dyn eisiau cyfiawnhau ei hun, felly gofynnodd i Iesu, “Ond pwy ydy fy nghymydog i?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd ef am ei gyfiawnhau ei hun, ac meddai wrth Iesu, "A phwy yw fy nghymydog?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond efe yn benderfynol i gyfiawnhâu ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog?