Luke 10:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a atepawdd ac a ddyvot, Ydd oedd ryw ðyn a ddescenawdd o Gaerusalem i Iericho, ac a syrthiawdd ymplith llatron, ac wy ei espeiliesant oei ddillat, ac ei archollesont ef, ac aethant ymaith, can ei ady yn lledvarw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i wared o Ierwshalem i Iericho, ac ym mysg lladron y syrthiodd, y rhai wedi ei ddiosg a’i guro, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner-marw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan ddal ar ei air, dywedodd, yr Iesu, “Rhyw ddyn oedd yn mynd i lawr o Gaersalem i Iericho, ac fe syrthiodd ymhlith lladron, y rhai a’i diosgodd a’i guro, a mynd ymaith a’i adael yn hanner marw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu gan ateb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerwsalem i Jericho, ac a syrthiodd ymysg lladron; y rhai wedi ei ddiosg ef, a'i archolli, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner marw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma sut atebodd Iesu: “Roedd dyn yn teithio i lawr o Jerwsalem i Jericho, a dyma ladron yn ymosod arno. Dyma nhw'n dwyn popeth oddi arno, ac yna ei guro cyn dianc. Cafodd ei adael bron marw ar ochr y ffordd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu, "Yr oedd rhyw ddyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jericho, a syrthiodd i blith lladron. Wedi tynnu ei ddillad oddi amdano a'i guro, aethant ymaith, a'i adael yn hanner-marw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe gan ateb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerusalem i Jericho, ac a syrthiodd yn mysg ysbeilwyr, y rhai a'i diosgasant ef, ac a'i curasant ef, ac a aethant ymaith, ac a'i gadawsant yn haner marw.