Luke 10:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac o ddamwain y daeth y wared y ffordd hono ryw Offeiriat, a’ gwedy iddaw ei ganvot, ef aeth heibiaw o’r tu arall.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth ddamwain rhyw offeiriad oedd yn myned i wared y ffordd honno; ac wedi ei weled ef, aeth o’r tu arall heibio.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A digwyddodd bod rhyw offeiriad yn mynd i lawr y ffordd honno, a phan welodd ef fe aeth o’r tu arall heibio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ddamwain rhyw offeiriad a ddaeth i waered y ffordd honno: a phan ei gwelodd, efe a aeth o'r tu arall heibio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma offeiriad Iddewig yn digwydd dod heibio, ond pan welodd y dyn yn gorwedd yno croesodd i ochr arall y ffordd a mynd yn ei flaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y digwyddodd, yr oedd offeiriad yn mynd i lawr ar hyd y ffordd honno; pan welodd ef, aeth heibio o'r ochr arall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar gyd‐ddygwyddiad, rhyw Offeiriad oedd yn myned i waered y ffordd hono; a phan y gwelodd ef, efe a aeth heibio o'r tu arall.